

Wedi hyfforddi ac yn barod am alwad-allan mewn argyfwng 24/7/365
Gweithrediadau Chwilio ac Achub yn Ynys Môn a Gogledd Cymru
Mae Môn-SAR yn dîm chwilio ac achub gwirfoddol hyfforddedig, ymroddedig a brwdfrydig sy'n darparu arbenigedd i wasanaethau brys a'r gymuned ar Ynys Môn i chwilio am bobl sydd ar goll ac sy'n agored i niwed.

Gweithdredol
Wedi hyfforddi ac yn barod am alwad-allan mewn argyfwng 24/7/365

Rolau Cefnogi
Bydd ein Timau Chwilio ac Achub wastad yn barod i dderbyn cefnogaeth o safon

Codi Arian
Croesawn unrhyw gymorth i godi arian i ni, cysylltwch a ni yn syth!
Mae Môn-SAR yn gweithredu ar draws Ynys Môn a Gogledd Gwynedd
Mae ein tîm yn ymateb 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gefnogi gwasanaethau'r Heddlu a'r Ambiwlans mewn digwyddiadau iseldir, arfordirol, llifogydd a threfol.
Rydym yn wirfoddolwyr hyfforddedig gyda sgiliau chwilio arbenigol, gallu gofalu am anafiadau, offer achub a chludiant oddi ar y ffordd.
Beth mae hyn yn ei gynnwys:
- Ymateb cychwynnol o gyfeiriadau cartref ar draws Ynys Môn a Gogledd Gwynedd
- Cynllunio chwilio, echdynnu anafiadau, a chefnogaeth lles
- Achub technegol gyda rhaffau a mynediad i dir anodd
- Cefnogaeth gwydnwch cymunedol yn ystod tywydd garw
Hoffech chi fod yn rhan o’r tim?
Mae MônSAR wastad yn chwilio am aelodau newydd, mewn rol gweithredol a chefnogol yn ogystal a grwp ‘Cefnogwyr MonSAR’ sydd yn cynorthwyo i godi arian.
Os ydych a diddordeb mewn ymuno neu mewn cefnogi’r gwaith pwysig yma, Cysylltwch a’r Tim.
Rhoddion a Noddi
Sut i’n helpu ...
Os hoffech wneud rhodd neu os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r tim mewn unrhyw ffordd, clicliwch ar ‘Sut in helpu’ page. Neu gellwch roi rhodd yma:
Tecstiwch MONSAR 5 i 70085 i roi rhodd o £5 + cost anfon neges arferol. Neu, gellwch roi unrhyw gyfraniad o swm cyfan hyd at £20 (MONSAR 1 - MONSAR 20).


