
Sut Allwch Chi Helpu Môn-SAR
Fel tîm achub dan arweiniad elusen, mae eich cefnogaeth yn ariannu offer, cerbydau, hyfforddiant a chyfathrebu yn uniongyrchol.
Mae MônSAR yn elusen DU cofrestredig (Rhif 1162558) ac nid yw’n derbyn unrhyw incwm statudol, felly mae rhoddion oddi wrth y cyhoedd yn hanfodol i gadw’r tim yn rhedeg 24awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym hefyd yn dibynnu ar y rhoddion yma, grantiau a noddwyr ar gyfer offer hanfodol ac i dalu am hyfforddiant allanol, felly plis cysylltwch a ni i ddeall sut y gallwch chi neu eich cyfundrefn gefnogi ein gwaith pwysig e.e. cynnal digwyddiad codi arian, eich busnes yn cefnogi blwch codi arian, neu efallai y medrith eich busnes gefnogi ni mewn ffordd arall. Rydym angen eich cefnogaeth!

Rhoi
Mae rhoddion untro neu reolaidd yn helpu i gadw'r tîm yn weithredol drwy gydol y flwyddyn.

Codi Arian
Mae digwyddiadau cymunedol a heriau noddedig yn hanfodol i gwrdd â chostau blynyddol.

Cymorth Corfforaethol
Gall busnesau noddi offer, cerbydau, neu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth.
Rhoddion a Noddi
Sut i’n helpu ...
Os hoffech wneud rhodd neu os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r tim mewn unrhyw ffordd, clicliwch ar ‘Sut in helpu’ page. Neu gellwch roi rhodd yma:
Tecstiwch MONSAR 5 i 70085 i roi rhodd o £5 + cost anfon neges arferol. Neu, gellwch roi unrhyw gyfraniad o swm cyfan hyd at £20 (MONSAR 1 - MONSAR 20).


