Dyma gost rhedeg y tim am

24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae’n costio bron £16,000 y flwyddyn i redeg y tim. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cadw a rhedeg 2 gerbyd ar y lon trwy’r flwyddyn
  • Atebolrwydd tim ac yswiriant damwain
  • Trwyddedau ar gyfer meddalwedd arbennigol i reoli chwiliadau
  • Aelodaeth hanfodol cysylltiedig a timau Chwilio ac Achub
  • Hyfforddi aelodau gwirfoddol
  • Cynnal a chadw offer hanfodol

Sylwch nad yw aelodau’r tim yn derbyn unrhyw gostau na rhoddion ac ar y funud hyd yn oed yn talu am ddillad tim personol sy’n cynnwys dillad tywydd garw, esgidiau cerdded, tortshys a rycsac.